Croeso i'r Gwobrau Delwedd Symudol

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol yn cydnabod ac yn dathlu'r cynyrchiadau delwedd symudol gorau gan fyfyrwyr sy'n dilyn cymwysterau Ffilm a'r Cyfryngau CBAC ar draws y DU.

Mae'r gwobrau yn gweithredu fel sbardun i wneuthurwyr ffilm talentog er mwyn iddyn nhw sefyll allan wrth gyflwyno cais i fynd i'r brifysgol ac ar ddechrau eu gyrfaoedd.

10fed Gwobrau Delwedd Symudol yn Dathlu Sêr y Dyfodol mewn gwneud ffilmiau

Dathlwyd gwneuthurwyr ffilm ifanc rhyfeddol yn ein 10fed Gwobrau Delwedd Symudol blynyddol yn y British Film Institute ar 26 Chwefror.

Daeth myfyrwyr, rhieni ac athrawon balch o bob rhan o'r DU ynghyd yn y digwyddiad mawreddog i ddathlu gwaith cyfarwyddwyr, sgriptwyr a chynhyrchwyr ifanc.

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol, a lansiwyd yn 2014 mewn cydweithrediad â'r British Film Institute, yn cydnabod ac yn dathlu cynyrchiadau delwedd symudol gorau myfyrwyr sy'n ymgymryd â'n cymwysterau mewn Ffilm a'r Cyfryngau ar draws y DU.

Ymhlith y categorïau eleni roedd y Ffilm Fer Orau, Fideo Cerddoriaeth, Darn Teledu / Ffilm, Sgript Ffilm, Un i'w Wylio a Gwobr Rheithgor Myfyrwyr.

Enillodd Cherry Ellis, o Ysgol Ramadeg Steyning yng Ngorllewin Sussex, y teitl Gwobr Rheithgor Myfyrwyr enwog yng ngwobrau eleni am ei ffilm o'r enw 'The Deep Mind Experience'. Mae'r ffilm yn animeiddiad stop-ffrâm arbrofol, lle mae'r prif gymeriad yn mynd ar daith freuddwydiol seicedelig i’w isymwybod.

Roedd y beirniaid yn canmol Cherry am ei defnydd o ddelweddau, lliw a cherddoriaeth cyferbyniol i adlewyrchu bywyd diflas bob dydd o’i gymharu â byd lliwgar a hardd yr isymwybod.

10fed Gwobrau Delwedd Symudol Enillydd GGwobr Rheithgor Myfyrwyr - ‘The Deep Mind Experience’ gan Cherry Ellis

Gellir gweld y fideos buddugol o'r Gwobrau Delwedd Symudol ar ein sianel YouTube.

“Mae’r seremoni wobrwyo heddiw wedi bod yn hollol anhygoel. Mae bob amser mor ysbrydoledig! Rwy'n credu mai'r her fwyaf sy'n wynebu pobl ifanc heddiw yw mentro i godi’n uwch na’u cyfyngiadau a'u credoau eu hunain ynghylch bod yn wneuthurwyr ffilm. Yr hyn rydyn ni wedi’i sylweddoli heddiw yw bod y diwydiant yn lle anhygoel. Mae digon o waith i bawb, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i'ch llais a chredu ynoch chi'ch hun. Mae'n rhaid i chi gredu bod pobl wir eisiau clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud a'i gynhyrchu. Ewch amdani!”

Dyma oedd gan Larushka Ivan-Zadeh, Prif Feirniad Ffilm Metro, i'w ddweud
Moving Image Awards